1 Brenhinoedd 6:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Yr oedd wedi goreuro'r cerwbiaid.

29. Cerfiodd holl barwydydd y cysegr mewnol o amgylch â lluniau cerwbiaid a phalmwydd a blodau agored, y tu mewn a'r tu allan;

30. a goreurodd lawr y cysegr mewnol oddi mewn ac oddi allan.

31. Gwnaeth ddorau o goed olewydd i fynedfa'r cysegr mewnol, a'r capan a'r cilbyst yn bumochrog.

32. Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored ar y ddwy ddôr o goed olewydd; wedyn goreurodd hwy, a rhedeg aur dros y cerwbiaid a'r palmwydd.

1 Brenhinoedd 6