1 Brenhinoedd 15:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Pan ddaeth yn frenin, trawodd holl deulu Jeroboam a'u difa, heb adael un perchen anadl i Jeroboam, yn unol â gair yr ARGLWYDD drwy ei was Aheia o Seilo.

30. Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu wrth ddigio yr ARGLWYDD, Duw Israel.

31. Ac onid yw gweddill hanes Nadab, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

1 Brenhinoedd 15