1 Brenhinoedd 11:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ond yr oedd Hadad, a oedd yn llanc ifanc ar y pryd, wedi dianc i lawr i'r Aifft gyda'r rhai o'r Edomiaid a fu'n weision i'w dad.

18. Wedi gadael Midian a chyrraedd Paran, cymerasant rai gyda hwy o Paran a dod i'r Aifft at Pharo brenin yr Aifft; rhoddodd yntau lety i Hadad, a threfnu i'w gynnal a rhoi tir iddo.

19. Enillodd Hadad ffafr mawr yng ngolwg Pharo, a rhoddodd yntau chwaer ei wraig, sef chwaer y Frenhines Tachpenes, yn wraig iddo.

20. Pan roddodd chwaer Tachpenes enedigaeth i'w fab Genubath, magodd Tachpenes ef ar aelwyd Pharo, fel bod Genubath yng nghartref Pharo gyda phlant Pharo.

1 Brenhinoedd 11