1 Brenhinoedd 11:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Yr oedd Dafydd wedi difa Edom pan aeth Joab capten y llu draw i gladdu'r lladdedigion, ac yr oedd wedi lladd pob gwryw yn Edom.

16. Arhosodd Joab a'r holl Israeliaid yno am chwe mis, nes difa pob gwryw yn Edom.

17. Ond yr oedd Hadad, a oedd yn llanc ifanc ar y pryd, wedi dianc i lawr i'r Aifft gyda'r rhai o'r Edomiaid a fu'n weision i'w dad.

18. Wedi gadael Midian a chyrraedd Paran, cymerasant rai gyda hwy o Paran a dod i'r Aifft at Pharo brenin yr Aifft; rhoddodd yntau lety i Hadad, a threfnu i'w gynnal a rhoi tir iddo.

1 Brenhinoedd 11