1 Brenhinoedd 10:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro â'r aur coethaf.

19. Yr oedd chwe gris i'r orseddfainc, pen ych ar gefn yr orseddfainc, dwy fraich o boptu i'r sedd, a dau lew yn sefyll wrth y breichiau.

20. Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris.

21. Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas. Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tŷ Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon.

1 Brenhinoedd 10