Numeri 33:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid,

4. tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.

5. Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.

6. Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.

7. Aethant o Etham a throi'n ôl i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol.

Numeri 33