Numeri 2:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.

29. Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,

30. a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.

31. Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun.”

Numeri 2