Marc 3:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato.

14. Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu

15. ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid.

16. Felly y penododd y Deuddeg, ac ar Simon rhoes yr enw Pedr;

17. yna Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes arnynt hwy yr enw Boanerges, hynny yw, “Meibion y Daran”;

Marc 3