Marc 14:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan leddid oen y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “I ble yr wyt ti am inni fynd i baratoi i ti, i fwyta gwledd y Pasg?”

13. Ac anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, “Ewch i'r ddinas, ac fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef,

14. a dywedwch wrth ŵr y tŷ lle'r â i mewn, ‘Y mae'r Athro'n gofyn, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’

Marc 14