Daniel 2:37-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

37. Yr wyt ti, O frenin, yn frenin y brenhinoedd; rhoddodd Duw'r nefoedd i ti frenhiniaeth, awdurdod, nerth a gogoniant,

38. a'th ethol i lywodraethu ar bobl ac anifeiliaid y maes ac adar yr awyr ple bynnag y bônt. Ti yw'r pen aur.

39. Ar dy ôl daw brenhiniaeth arall, wannach na thi. Yna trydedd frenhiniaeth, un o bres, yn teyrnasu dros yr holl ddaear.

Daniel 2