Barnwyr 3:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel a gwerthodd hwy i law Cusan-risathaim, brenin Aram-naharaim, a bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Cusan-risathaim am wyth mlynedd.

9. Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd yr ARGLWYDD achubwr i'r Israeliaid, sef Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, ac fe'u gwaredodd.

10. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a barnodd Israel a mynd allan i ryfela, a rhoddodd yr ARGLWYDD yn ei law Cusan-risathaim, brenin Aram, ac fe'i trechodd.

11. Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd, nes i Othniel fab Cenas farw.

12. Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a nerthodd ef Eglon brenin Moab yn eu herbyn am iddynt wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

Barnwyr 3