Barnwyr 14:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Yna aeth Samson yn ei flaen i siarad gyda'r ferch, a'i chael wrth ei fodd.

8. Pan ddychwelodd ymhen amser i'w phriodi, trodd i edrych ar ysgerbwd y llew, a dyna lle'r oedd haid o wenyn a mêl y tu mewn i'r corff.

9. Cymerodd beth o'r mêl yn ei law, ac aeth yn ei flaen dan fwyta, nes dod at ei dad a'i fam; rhoddodd beth hefyd iddynt hwy i'w fwyta, heb ddweud wrthynt mai o gorff y llew y daeth y mêl.

10. Aeth ei dad i lawr at y ferch, a gwnaeth Samson wledd yno yn ôl arfer y gwŷr ifainc.

Barnwyr 14